Gŵyl fach gartrefol yw Gŵyl y Cynhaeaf.
Tref Aberteifi yw ei chwtsh, a’i hysbrydoliaeth yw campau creadigol a chyfoeth naturiol ei milltir sgwâr.
Mae’n ŵyl o straeon a chwerthin a chlonc, o gerddi a cherddoriaeth a chelf. Mae’n ŵyl o weithdai a pherfformiadau, yn ŵyl danteithion digidol a disgled, yn ŵyl i ymlacio ynddi.
Sefydlwyd yr Ŵyl yn 2016 i nodi hanner can mlynedd ers i Dic Jones ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol am ei awdl eiconig ‘Cynhaeaf’. Ond mae cynaeafau eraill i’w dathlu hefyd, wrth gwrs, a chyfle i gyflwyno’r gorau o Gymru i Aberteifi, a’r gorau o Aberteifi i Gymru.
Bydd Gŵyl 2018 ar y 24 – 29 o Fedi.
Dewch draw i Aberteifi – bydd croeso yn eich disgwyl.
This is relaxed little festival, celebrating the creativity and generosity of Cardigan and the surrounding area. Featuring local and national talents, it is a rich and diverse harvest of stories, poetry, music and art with the emphasis on informality and enjoyment.
The festival will be held on the 24 – 29 September, 2018.
Come to Cardigan – a welcome awaits you