Rydym yn falch iawn i gyhoeddi y bydd cyflwyniad unigryw o’r awdl ‘Cynhaeaf’ yn ystod Gŵyl y Cynhaeaf o dan arweinaid un o berfformwyr disgleiriaf Cymru, sef Eddie Ladd, merch fferm o Flaenannerch. Dyma oedd gan Eddie i ddweud am y prosiect –
“Rwy’n falch iawn ‘y mod i’n rhan o Ŵyl y Cynhaeaf. Mae’n wirioneddol braf cael gweithio’n greadigol yn fy milltir sgwâr ac ystyried yr hyn sy’n neilltuol i gymeriad yr ardal a’m cynefin. Rwy’n falch hefyd o’r cyfle i weitho yn y Gwmrâg a chael cyfoethogi’n iaith”
Yn wir, y mae gwahoddiad eang i fudiadau, corau, cymdeithasau, clybiau ac unigolion gymryd rhan yn y cyflwyniad cyfoes a chyffrous hwn. Fel rhan o’r cyflwyniad, mae’n fwriad ail ffurfio y côr plant oedd yn rhan o gyngerdd cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976. Os oeddech yn aelod, yn gwybod pwy oeddynt neu yn blentyn i un ohonynt yna hoffem glywed gennych.
Croeso ichi rannu atgofion am Eisteddfod y Dathlu neu Eisteddfod y Llwch yn ’76 ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol (@Gwyl_Cynhaeaf) ac yn ystod yr ŵyl ei hun.
Mi fydd yna gyfarfod i bawb sydd yn dymuno bod yn rhan o’r cyflwyniad cyffrous yma ar nos Iau, 1 Medi yn y Man a’r Lle, Coleg Ceredigion (Campws Aberteifi) am 7.30yh. Dewch draw i glywed mwy!
Rydym yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Aberystwyth am noddi’r Cyflwyniad unigryw yma. Mae Eddie Ladd yn Gymrawd Creadigol Dysgu ac Ymchwil adran Theatr, Ffilm a Theledu y Brifysgol.