Cyflwyniad o ‘Cynhaeaf’
Cyfarfod Agored, Nos Iau, 1 Medi am 7.30yh
Man a’r Lle, Coleg Ceredigion – Campws Aberteifi
Yn rhan o arlwy Gŵyl y Cynhaeaf bydd cyflwyniad unigryw o gampwaith Dic Jones ‘Cynhaeaf’, a mae croeso mawr ichi fod yn rhan ohono. Eddie Ladd, merch fferm o Flaenannerch a pherfformwraig disglair sydd yn arwain ar y prosiect. Dywedodd Eddie am y prosiect –
“Rwy’n falch iawn ‘y mod i’n rhan o Ŵyl y Cynhaeaf. Mae’n wirioneddol braf cael gweithio’n greadigol yn fy milltir sgwâr ac ystyried yr hyn sy’n neilltuol i gymeriad yr ardal a’m cynefin. Rwy’n falch hefyd o’r cyfle i weitho yn y Gwmrâg a chael cyfoethogi’n iaith”
Mae gwahoddiad eang i gorau, cymdeithasau, clybiau ac unigolion gymryd rhan yn y cyflwyniad cyfoes a chyffrous hwn sydd wedi ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth. Yn ogystal a chanu a pherfformio mae croeso i unrhywun sydd eisiau cynorthwyo gydag agweddau eraill y cyflwyniad e.e stiwardio, yn dechnegol, gwisgoedd ayb.
Fel rhan o’r cyflwyniad mae’n fwriad ail ffurfio y côr plant oedd yn rhan o gyngerdd cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976. Os oeddech yn aelod, yn gwybod pwy oeddynt neu yn blentyn i un ohonynt yna hoffem glywed gennych.
Bydd y cyflwyniad ei hun yn digwydd yn nhref Aberteifi ar nos Wener 30 o Fedi. Os oes gennych ddiddordeb i gymryd rhan neu gynorthwyo yna dewch draw i’r Man a’r Lle ar nos Iau, 1 Medi i glywed mwy gan Eddie am ei gweledigaeth a chofrestru ar gyfer profiad bythgofiadwy.
————-
Ymrwymiad – Dyma amlinelliad o’r ymrwymiad tuag at y prosiect :
- Gwaith dysgu caneuon a geiriau o flaenllaw.
- Ymarferion : Bydd ymarferion yn ystod yr wythnos 12 Medi – 16 Medi + ymarfer gwisg cyn y perfformiad
- Perffomiad : Nos Wener 30 Medi