Dyma ichi rhaglen lawn yr ŵyl. Llu o weithgareddau ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion.
Diolch yn fawr i’r noddwyr am eu cefnogaeth parod sef Prifysgol Aberystwyth, Awen Teifi, Broceiriad Yswiriant Delwyn Griffiths, Cware ac Olew Trefigin, Cered, Cyngor Sir Ceredigion a Theatr Byd Bychan.
“Rwy’n gweled eto gwmni cymdogol”
Dyddiad : MERCHER, MEDI 28
LLAIS Y LLUN
Arddangosfa cwbl unigryw yn plethu gwaith newydd gan Caryl Lewis, lluniau Aneurin Jones a lleisiau’r gymuned. Yn dilyn cyfle i weld a chlywed y gwaith bydd y ddau artist yn cael eu holi gan Guto Prys ap Gwynfor.
19.30, Castell Aberteifi
Pris : Am Ddim
Dyddiad : IAU, MEDI 29
Diwrnod ar gyfer ysgolion cynradd a chyfle i fynd ar antur i fyd ‘Saith Selog’, i gwrdd â rhai o gymeriadau y comic Mellten a chreu barddoniaeth gyda Gruffudd Owen a Gwennan Evans.
10.00 – 14.30, Castell Aberteifi
Pris: Plant yn £2 (athrawon am ddim)
TALWRN Y BEIRDD
Y Ffoaduriaid v Tîm yr Hendre
Gwennan Evans Idris Reynolds
Gruffudd Owen Mererid Hopwood
Llŷr Gwyn Lewis Emyr Davies
Casia Wiliam Myrddin ap Dafydd
19.30, Castell Aberteifi
Pris : Am ddim
Dyddiad : GWENER, MEDI 30
Gweithgareddau ar gyfer disgyblion TGAU Ysgolion Uwchradd gyda dosbarthiadau meistr gan Eurig Salisbury a Llyr Gwyn Lewis.
10.00 – 15.00 , Castell Aberteifi
Disgyblion : £5 (athrawon am ddim)
CYFLWYNIAD O ‘CYNHAEAF’
Yn y cyflwyniad unigryw yma daw’r gymuned at ei gilydd i berfformio’r awdl enwog mewn llefydd annisgwyl o gwmpas tref Aberteifi. A hynny o dan arweiniaid Eddie Ladd.
1830, cwrdd yn Parc y Ffair
Tocynnau : £8 / £5
Dyddiad : DYDD SADWRN, HYDREF 1
LLUN ARBENNIG
Gyda cadeiriau eisteddfodol 1966 a 2016 a phobl yr ardal – yn eich cynnwys chi!
‘Ac ar bob min werinol – yr hen iaith
Yn nillad gwaith ei hafiaith cartrefol.’
Dewch yn eich dillad gwaith!
Bydd CFfI Penparc yn gwneud taith tractor trwy’r dre wedyn.
10:00, Mart Aberteifi.
CLONC YR ŴYL
Castell Aberteifi,
Tocyn dydd £10
1100 – 1200 Campau’r Cynhaeaf
Sgwrs gan y Prifardd Myrddin ap Dafydd i’n hatgoffa ni o fawredd awdl ac awen Dic Jones.
Cadeirydd: Ceri Wyn Jones
1200 – 1230 Bardd Gwlad: Bardd Cenedlaethol
Sgwrs gan y Prifardd Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, yn trafod sut beth yw bod yn fardd yng Nghymru yn 2016.
Cadeirydd: Ceri Wyn Jones
1330 – 1430 Yr Hufen o’r Fenni
Cyfle i gwrdd ag Aneirin Karadog, Elinor Gwynn ac Eurig Salisbury, enillwyr prif gystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a’u holi am eu gwaith a’u gwobr.
Cadeirydd: Ceri Wyn Jones
1430 – 1500 Crefft y Gadair
Bydd Emyr Garnon yn rhannu’r profiad o greu cadair Eisteddfod Genedlaethol y Fenni eleni a rhoddwyd gan deulu’r Hendre er cof am Dic Jones.
Cadeirydd : Iwan Griffiths
1500– 1530 Eluned Phillips yr Optimist Absoliwt
Beth yw’r gwir am Eluned Phillips? Prin y gwyddwn ei dyddiad geni cywir. Sgwrs gyda Menna Elfyn awdur cofiant newydd am y gochen o Genarth.
Cadeirydd : Elinor Wyn Reynolds
1530 – 1615 Cynghanedd i Ddysgwr
Mererid Hopwood fydd yn nghofal y gweithdy hwyliog yma yn cyflwyno’r grefft unigryw i ddysgwyr.
1630 – 1715 Geiriau
Beth wnaeth ysbrydoli cenedlaethau o fandiau llwyddiannus yr ardal i sgwennu geiriau mor gofiadwy? Sgwrs gyda Richard Jones, Dave Datblygu, Lowri Evans
Cadeirydd: Richard Rees
1715 – 1600 Welsh Whisperer
Canu gwlad, gwerin a phop fel na glywsoch o’r blaen!
GWEITHGAREDDAU PLANT, Castell Aberteifi
£2 y plentyn
1030 – 1400 Atebol yn cyflwyno ‘Helfa Drysor’ y Saith Selog
Antur o amgylch y castell gyda chymeriadau y gyfres ‘Saith Selog’, addasiad Manon Steffan Ros o ‘Secret Seven’ gan Enid Blyton. Fedrwch chi ddarganfod y 7 cliw a ffurfio’r gair er mwyn ennill y wobr?!
1130 & 1400 Amser Stori Atebol
Yr actores Lowri Sion fydd yn cyflwyno llyfrau stori diweddaraf Atebol ar gyfer y plant iau.
1230 & 1500 Ukelele
Sesiwn hwyliog o dan ofal Llinos Hallgarth, Cered
1715 Welsh Whisperer
Canu a chwerthin, i blant ac oedolion!
CYNGERDD GŴYL Y CYNHAEAF
Yn cloi y cyfan bydd cyngerdd fawreddog yn cynnwys rhai o brif enillwyr yr Eisteddfod Genedlaethol gan gynnwys :
Gwyn Morris, Kathryn Price, Steffan Rhys Hughes, John Eifion, Lois Eifion
Meinir Jones Parry, Côr Meibion Blaenporth, Ar ôl Tri a
Côr Aberteifi.
7.30yh Capel Bethania
Tocyn : £10:00 (£5:00 dan 18 oed)
Tocynnau ar werth ar gyfer y Cyflwyniad (nos Wener), Clonc yr Wyl (Dydd Sadwrn) a’r Gyngerdd (Nos Sadwrn) yn –
Siop Awen Teifi (01239 621 370)
Siop Castell Aberteifi (01239 615131)
Un sylw am “Rhaglen llawn dop yr ŵyl”