Mae’r Ŵyl eleni yn ymestyn thema’r cynhaeaf – cynhaeaf yr afon ei hun a’i chyfoeth naturiol a hanesyddol, a thalent bro. Bydd digwyddiadau’r Ŵyl dros y pedwar diwrnod yn cynnig rhywbeth at ddant pawb o bob oed, yn siaradwyr Cymraeg ac yn ddysgwyr.
Dyma i chi’r rhaglen yn llawn :
Bob dydd, 27 – 30.9.17
ARDDANGOSFA 10am – 5pm Y Gyfnewidfa Ŷd, Am ddim
Arddangosfa o fap hynod Idris a Beryl Mathias o’r afon Teifi, hen ffotograffiau o storfa’r hanesydd Glen Johnson a lluniau cyfoes gan y ffotograffydd Nerys Evans (Cardigan Bay Brownies). Bydd hefyd ymateb creadigol gan blant o dair o ysgolion cynradd yr ardal sef Cilgerran, Aberteifi a Llandudoch a wnaethpwyd yn ystod gweithdai o arweiniad Cathryn Gwynn. Yn ogystal bydd byd yr afon Teifi mewn gêm gyfrifiadurol gyda gwaith enillwyr cystadleuaeth ieuenctid Minecraft ar ddangos hefyd.
Galwch mewn i gael pip a chlonc!
MERCHER, 27.9.17
GWEITHDAI CYNRADD 9.30am – 3pm Castell Aberteifi £2.50 y plentyn
Gweithdai creadigol ar gyfer plant cyfnod allweddol 2, yng nghwmni Meleri Wyn James, awdur ‘Na, Nel!’ a Llinos Jones, Swyddog Cyfranogi Theatr Genedlaethol Cymru.
IAU, 28.9.17
GWEITHDAI UWCHRADD 9.30am – 3pm Castell Aberteifi £5.00 y plentyn
Gweithdai ar gyfer disgyblion TGAU yng nghwmni beirdd adnabyddus megis y Prifardd Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury o Brifysgol Aberystwyth.
TALWRN Y BEIRDD 7.30pm Castell Aberteifi Am Ddim
Bydd lot fawr o hwyl a thynnu coes ac wrth gwrs y cythra’l cystadlu wrth i bencampwyr cyfres Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru sef Y Glêr gael eu herio gan dîm o dalent lleol.
Dyma ichi’r tîmoedd :
Tîm yr Arglwydd Rhys
Idris Reynolds
Philippa Gibson
Dai Rees Davies
Terwyn Tomos
Y Glêr
Eurig Salisbury
Osian Rhys Jones
Hywel Griffiths
Iwan Rhys
GWENER 29.9.17
TAITH Y DABLEN 7.00pm Cychwyn o’r Pizza Tipi £10
Dewch ar grôl rownd rhai o dafarndai a bwytai gwaelod dre Aberteifi.
Cewch fynd ar siwrne ar hyd cwrs yr afon Teifi o’i darddiad hyd at y geg yr afon wrth brofi cyflwyniadau o waith newydd sbon gan bump awdur ifanc o’r ardal sef Iwan Teifion Davies, Ffion Haf Williams, Ffion Morgan, Miriam Elin Jones a Steffan Gwynn.
Felly prynwch ddiod ym mhob stop, ymlaciwch a joiwch!
I ymuno â’r daith dewch i’r Pizza Tipi erbyn 7.00pm. Bydd y ffwrn pitsa wedi cynnau o 4pm ymlaen os ych chi moyn swpera cyn mynd am wac.
(Gyda llaw, ar droed fyddwn yn mynd ar y daith ‘leni!)
SADWRN 30.9.17
HELYNT CERIDWEN A’I FFRINDIAU 10am & 1pm Cwrdd yn y Gyfnewidfa Yd £5 y plentyn
Perfformiad arbennig ar gyfer plant oed 4 +. Dewch i fwynhau straeon amrywiol a helpu Ceridwen.
CLONC YR WYL o 1.30pm ymlaen Y Gyfnewidfa Ŷd, Am ddim
Cyfle i glywed mwy am y map gyda Dai Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Rhowch groeso arbennig Aberteifi i Brifardd 2017 sef Osian Rhys Jones. Bydd Dyfed Elis Gruffydd yn son am daeareg yr afon Teifi. Gweithdy hwyliog yng nghwmni criw Y Stamp a sgwrs da gyda Aneurig bwystfil Clera
GIG CLOI GŴYL 2017 8pm Pendre Art £10
Y Niwl, Lowri Evans a Lee Mason, Gwilym Bowen Rhys a’r Welsh Whisperer. Dewch i joio cerddoriaeth arbennig, cwmni da ac ambell i goctêl!
TOCYNNAU
Croeso ichi alw mewn i Awen Teifi i brynu tocynnau o flaenllaw.
NODDWYR
Diolch mawr i Gyngor y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Tref Aberteifi, Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Ras yr Iaith, Cered ac Awen Teifi am noddi’r ŵyl eleni.