RHAGLEN GŴYL 2017

Mae’r Ŵyl eleni yn ymestyn thema’r cynhaeaf – cynhaeaf yr afon ei hun a’i chyfoeth naturiol a hanesyddol, a thalent bro. Bydd digwyddiadau’r Ŵyl dros y pedwar diwrnod yn cynnig rhywbeth at ddant pawb o bob oed, yn siaradwyr Cymraeg ac yn ddysgwyr.

Dyma i chi’r rhaglen yn llawn :

Bob dydd, 27 – 30.9.17   

ARDDANGOSFA                                                                                                                             10am – 5pm   Y Gyfnewidfa Ŷd,  Am ddim

Arddangosfa o fap hynod Idris a Beryl Mathias o’r afon Teifi, hen ffotograffiau o storfa’r hanesydd Glen Johnson a lluniau cyfoes gan y ffotograffydd Nerys Evans (Cardigan Bay Brownies).  Bydd hefyd ymateb creadigol gan blant o dair o ysgolion cynradd yr ardal sef Cilgerran, Aberteifi a Llandudoch a wnaethpwyd yn ystod gweithdai o arweiniad Cathryn Gwynn. Yn ogystal bydd byd yr afon Teifi mewn gêm gyfrifiadurol gyda gwaith enillwyr cystadleuaeth ieuenctid Minecraft ar ddangos hefyd.

Galwch mewn i gael pip a chlonc!

MERCHER, 27.9.17

GWEITHDAI CYNRADD                                                                                                                 9.30am – 3pm   Castell Aberteifi     £2.50 y plentyn

Gweithdai creadigol ar gyfer plant cyfnod allweddol 2, yng nghwmni Meleri Wyn James, awdur ‘Na, Nel!’ a Llinos Jones, Swyddog Cyfranogi Theatr Genedlaethol Cymru.

IAU, 28.9.17

GWEITHDAI UWCHRADD                                                                                                                 9.30am – 3pm   Castell Aberteifi     £5.00 y plentyn

Gweithdai ar gyfer disgyblion TGAU yng nghwmni beirdd adnabyddus megis y Prifardd Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury o Brifysgol Aberystwyth.

TALWRN Y BEIRDD                                                                                                                      7.30pm     Castell Aberteifi   Am Ddim

Bydd lot fawr o hwyl a thynnu coes ac wrth gwrs y cythra’l cystadlu wrth i bencampwyr cyfres Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru sef Y Glêr gael eu herio gan dîm o dalent lleol.

Dyma ichi’r tîmoedd :

Tîm yr Arglwydd Rhys
Idris Reynolds
Philippa Gibson
Dai Rees Davies
Terwyn Tomos

Y Glêr
Eurig Salisbury
Osian Rhys Jones
Hywel Griffiths
Iwan Rhys

GWENER  29.9.17

TAITH Y DABLEN                                                                                                                         7.00pm    Cychwyn o’r Pizza Tipi      £10

Dewch ar grôl rownd rhai o dafarndai a bwytai gwaelod dre Aberteifi.

Cewch fynd ar siwrne ar hyd cwrs yr afon Teifi o’i darddiad hyd at y geg yr afon wrth brofi cyflwyniadau o waith newydd sbon gan bump awdur ifanc o’r ardal sef Iwan Teifion Davies, Ffion Haf Williams, Ffion Morgan, Miriam Elin Jones a Steffan Gwynn.

Felly prynwch ddiod ym mhob stop, ymlaciwch a joiwch!

I ymuno â’r daith dewch i’r Pizza Tipi erbyn 7.00pm. Bydd y ffwrn pitsa wedi cynnau o 4pm ymlaen os ych chi moyn swpera cyn mynd am wac.
(Gyda llaw, ar droed fyddwn yn mynd ar y daith ‘leni!)

SADWRN 30.9.17

HELYNT CERIDWEN A’I FFRINDIAU                                                                                       10am & 1pm        Cwrdd yn y Gyfnewidfa Yd           £5 y plentyn

Perfformiad arbennig ar gyfer plant oed 4 +. Dewch i fwynhau straeon amrywiol a helpu Ceridwen.

CLONC YR WYL                                                                                                                                    o 1.30pm ymlaen     Y Gyfnewidfa Ŷd,  Am ddim

Cyfle i glywed mwy am y map gyda Dai Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.  Rhowch groeso arbennig Aberteifi i Brifardd 2017 sef Osian Rhys Jones.                            Bydd Dyfed Elis Gruffydd yn son am daeareg yr afon Teifi.                                                                  Gweithdy hwyliog yng nghwmni criw Y Stamp a sgwrs da gyda Aneurig bwystfil Clera

GIG CLOI GŴYL 2017                                                                                                                        8pm     Pendre Art   £10

Y Niwl, Lowri Evans a Lee Mason, Gwilym Bowen Rhys a’r Welsh Whisperer.  Dewch i joio cerddoriaeth arbennig, cwmni da ac ambell i goctêl!

 

TOCYNNAU

Croeso ichi alw mewn i Awen Teifi i brynu tocynnau o flaenllaw.

NODDWYR

Diolch mawr i Gyngor y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Tref Aberteifi, Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Ras yr Iaith, Cered ac Awen Teifi am noddi’r ŵyl eleni.

Beth i ddisgwyl yn Gwyl 2017?

Yr ANNISGWYL!

Y llynedd bu’n wyl a hanner gyda rhaglen orlawn fel y gellir gweld yma ac mae’n edrych fel bydd eleni hyd yn oed yn fwy llawn! Bydd manylion rhaglen 2017 yn cael ei rannu wap, cadwch lygad ar y wefan er mwyn sicrhau bod tocyn gyda chi i bob dim.

Er mwyn i chi gael rhywfath o syniad o’r gweithgareddau amrywiol bydd yna weithdai, arddangosfa, Talwrn, perfformiad i blant ac un ar gyfer oedolion heb son am gig arbennig i gloi.

tabernaclAr gyfer Gwyl 2016 creodd yr artist lleol a rhyngwladol Eddie Ladd gyflwyniad cwbl unigryw wedi ei selio ar gywydd Dic Jones ‘Cynhaeaf’.  Gallwch wylio’r ffilm o’r cyflwyniad yn fan hyn

A gwnaeth yr awdur Caryl Lewis gydweithio gyda’r artist Aneurin Jones er mwyn creu cywaith unigryw ‘Llais y Llun’.  Erbyn hyn mae’r ddau wedi cydweithio eto er mwyn creu cyfrol arloesol ar gael i chi fwynhau.

 

Gobeithio bod hyn i gyd wedi tanio eich dychymyg, chi siwr o fod methu aros i fynychu Gwyl 2017 nawr!

 

Aberteifi ar y map!

IMG_3454
Map o’r Teifi gan Idris Mathias

Pan ddaw mis Medi – Medi 27 – 30 i fod yn fanwl gywir – fe fydd Gŵyl y Cynhaeaf eleni eto yn cynnig pedwar diwrnod o ddigwyddiadau y tu hwnt i bob disgwyl ar gyfer pob oed.

Eleni, cynhaeaf yr ŵyl fydd cyfoeth yr afon Teifi ei hunan. Yn ganolbwynt fe fydd arddangosfa yn y Gyfnewidfa Yd ac yno, yn goron ar y cyfan, fe fydd rhan o fap arbennig iawn o’r afon, ar ddangos am y tro cyntaf. Dyma gyfle unigryw i fwynhau darn o etifeddiaeth hollol hynod – map hardd wedi ei ddylunio â llaw, llafur cariad Idris a Beryl Mathias, yn orlawn o enwau lleoedd diddorol yr afon a’i glannau, darluniau bach a darnau o hanesion bro. Hwn fydd yn ysbrydoliaeth i’r rhaglen a diolch yn fawr iddynt am y caniatad i arddangos a dathlu’r map hynod.

Mae croeso i chi alw heibio’r Gyfnewidfa Ŷd unrhywbryd yn ystod yr wythnos i gael golwg mwy manwl ar y map, rhannu eich straeon chi am yr afon, profi gwaith celf gan eraill, sgwrsio a rhoi’r byd yn ei le!

Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau difyr ar y gweill yn ystod yr ŵyl yn cynnwys taith straeon newydd, gig, Talwrn a sgwrs – ar gyfer plant, pobl ifanc a’r rhai sydd yn ifanc mewn ysbryd. Mwy o fanylion wap!

Croeso i chi ddilyn a chysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal sef Facebook a Twitter

Mae diolch mawr i Gyngor y Celfyddydau, Ras yr Iaith, Cyngor Tref Aberteifi ac Awen Teifi am noddi’r ŵyl eleni.

Premiere Ffilm ‘Cyflwyniad o Cynhaeaf’

Ar nos Wener 17 o Fawrth bydd cyfle i chi brofi gwefr unigryw ‘Cyflwyniad y Cynhaeaf’. Ffilmiwyd y cyflwyniad a fu ar daith i fannau dirgel o gwmpas tref Aberteifi felly dyma gyfle i ddal y bws am y tro cyntaf neu unwaith eto!

Yn rhan o gast y ffilm mae aelodau o gorau lleol megis Côr Meibion Blaenporth, Côr Clwb Rygbi Aberteifi, Côr Crymych ac Opera Teifi ynghyd ag aelodau talentog eraill o’r gymuned gan gynnwys Llinos Devonald, Sarah Jane, Gwyn Morris a Ceri Wyn Jones.

Mae croeso ichi eistedd yn gyfforddus yn Y Man a’r Lle yn mwynhau glased o gin ac ychydig o gaws tra’n gwylio’r ffilm.

Croeso mawr i bawb – y rhai bu’n perfformio, y rhai oedd ar y bws a’r rhai sydd yn ei brofi am y tro cyntaf.

£5 yn cynnwys Caws a glased o Gin lleol
Elw tuag at Gŵyl y Cynhaeaf 2017

 A warm welcome to all to enjoy a film premiere of Eddie Ladd’s unique collaboration with the local community to celebrate half a century since the local poet Dic Jones won the National Eisteddfod chair with the ode ‘Cynhaeaf’.

7.30yh, Nos Wener, 17 Mawrth
Y Man a’r Lle, Coleg Ceredigion

Cyflwyniad o ‘Cynhaeaf’ : gwybodaeth i’r gynulleidfa

Beth?

Cyflwyniad unigryw o gampwaith Dic Jones, Yr Hendre – ‘Cynhaeaf’, dan gyfarwyddyd medrus Eddie Ladd (Gwenith Owen).

Pryd a ble?

Mae’r cyflwyniad yn dechrau yn brydlon am 6.30yh ar Nos Wener 30 Medi. Mae gofyn i bawb ymgynnull ym maes parcio’r ffair (neu pwll nofio) yn Aberteifi am 6.15yh. Ni does angen talu i barcio yn y maes parcio ar ôl 6yh.

Ni fydd modd i hwyrddyfodiaid ymuno â’r cyflwyniad, felly dewch mewn da bryd. Mae teithio ar y bws yn rhan o’r profiad ac yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch a rhediad llyfn y cyflwyniad – NID YW’N OPSIWN I CHI WNEUD EICH TREFNIADAU TEITHIO EICH HUN.

Beth i ddisgwyl?

Perfformiad promenâd fydd hwn, sy’n golygu bydd lleoliadau gwahanol ar draws Aberteifi yn cael eu defnyddio ar gyfer y cyflwyniad. Byddwch yn cerdded ychydig, ac ar eich traed am gyfnodau hefyd, ond bydd bws yn eich cludo rhwng y lleoliadau. Cofiwch wisgo dillad cynnes ac esgidiau cyfforddus, a dewch â chot. Bydd bron popeth yn digwydd o dan do, ond bydd adegau pryd byddwch allan yn yr awyr agored.

Os oes gennych unrhyw anableddau neu anawsterau symud all gyfyngu eich mwynhad o’r cyflwyniad, rhowch wybod tra’n prynu eich tocyn, neu cysylltwch â Steffan Phillips ar 07817285266.

Bydd y cyflwyniad yn parhau am tua awr a tri chwarter. Byddwn yn gorffen mewn lleoliad sy’n agos at faes parcio’r ffair i chi gael mynd ar ôl eich ceir.

Ni fydd hi bob amser yn bosib cael defnydd o dŷ bach yn ystod y cyflwyniad. Os bydd angen defnydd o dŷ bach arnoch, gofynnwch wrth un o’r stiwardiaid.

Dewch â meddwl agored, a pharatowch am wledd unigryw.

 

Tocynnau

Oherwydd natur y cyflwyniad, nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar werth. Maent ar gael o siop Awen Teifi ac o Gastell Aberteifi am £8 (£5). Ni bydd tocynnau ar gael i’w prynu ar y noson, felly gwnewch yn siwr bod tocyn gennych cyn hynny.

 

Gwybodaeth ychwanegol 

Bydd y cyflwyniad yn cael ei ffilmio a bydd lluniau yn cael eu tynnu o’r perfformwyr ac o’r gynulleidfa. Bydd hefyd dyfais hedfan di-beilot yn rhan o’r noson. Os nad ydych yn hapus gydag un o’r elfennau hyn, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni – o flaen llaw os yn bosib neu i un o’r stiwardiaid ar y noson.

 

Mwynhewch!

Rhaglen llawn dop yr ŵyl

Dyma ichi rhaglen lawn yr ŵyl. Llu o weithgareddau ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion.

Diolch yn fawr i’r noddwyr am eu cefnogaeth parod sef Prifysgol Aberystwyth, Awen Teifi, Broceiriad Yswiriant Delwyn Griffiths, Cware ac Olew Trefigin, Cered, Cyngor Sir Ceredigion a Theatr Byd Bychan.

“Rwy’n gweled eto gwmni cymdogol”

Dyddiad : MERCHER, MEDI 28

LLAIS Y LLUN
Arddangosfa cwbl unigryw yn plethu gwaith newydd gan Caryl Lewis, lluniau Aneurin Jones a lleisiau’r gymuned. Yn dilyn cyfle i weld a chlywed y gwaith bydd y ddau artist yn cael eu holi gan Guto Prys ap Gwynfor.
19.30, Castell Aberteifi
Pris : Am Ddim

Dyddiad : IAU, MEDI 29  

Diwrnod ar gyfer ysgolion cynradd a chyfle i fynd ar antur i fyd ‘Saith Selog’, i gwrdd â rhai o gymeriadau y comic Mellten a chreu barddoniaeth gyda Gruffudd Owen a Gwennan Evans.
10.00 – 14.30, Castell Aberteifi
Pris: Plant yn £2 (athrawon am ddim)

TALWRN Y BEIRDD
Y Ffoaduriaid v Tîm yr Hendre

Gwennan Evans               Idris Reynolds
Gruffudd Owen                Mererid Hopwood
Llŷr Gwyn Lewis              Emyr Davies
Casia Wiliam                    Myrddin ap Dafydd

19.30, Castell Aberteifi
Pris : Am ddim

Dyddiad : GWENER, MEDI 30 

Gweithgareddau ar gyfer disgyblion TGAU Ysgolion Uwchradd gyda dosbarthiadau meistr gan Eurig Salisbury a Llyr Gwyn Lewis.
10.00 – 15.00 , Castell Aberteifi
Disgyblion : £5 (athrawon am ddim)

CYFLWYNIAD O ‘CYNHAEAF’
Yn y cyflwyniad unigryw yma daw’r gymuned at ei gilydd i berfformio’r awdl enwog mewn llefydd annisgwyl o gwmpas tref Aberteifi. A hynny o dan arweiniaid Eddie Ladd.

1830, cwrdd yn Parc y Ffair
Tocynnau : £8 / £5

Dyddiad : DYDD SADWRN, HYDREF 1

LLUN ARBENNIG
Gyda cadeiriau eisteddfodol 1966 a 2016 a phobl yr ardal – yn eich cynnwys chi!
                                    ‘Ac ar bob min werinol – yr hen iaith
                                     Yn nillad gwaith ei hafiaith cartrefol.’ Parhau i ddarllen Rhaglen llawn dop yr ŵyl

LLAIS Y LLUN : Arddangosfa arbennig

Aneurin Jones a Caryl Lewis yw’r ddau artist creadigol sydd wedi creu arddangosfa unigryw ar gyfer Gŵyl y Cynhaeaf, sef Llais y Llun.  Dyma’r tro cyntaf iddynt gydweithio ac mae’r prosiect ei hun yn torri tir newydd trwy gyd-glymu celf gweledol, llenyddiaeth a phrofiad theatraidd.

Perthyn gwaith y ddau artist i gefen gwlad, maent yn darlunio pobl y tir yn eu gogoniant a’u gwendid. Gyda’r ddau yn galw Ceredigion yn gartref ac yn portreadu pobl y sir, fel y gwnaeth Dic yr Hendre, mae agor yr ŵyl yn eu cwmni yn gwbwl berffaith.

Eleni enillodd Caryl Lewis Llyfr y Flwyddyn am yr eildro gyda’r nofel synhwyrus Y Bwthyn. Dywed Caryl am greu arddangosfa Llais y Llun –

“ Pleser pur oedd cael gweithio ar y prosiect arloesol hwn gyda Aneurin. Prosiect sy’n torri tir newydd ac yn dod a’r hen fyd a’r byd cyfoes at ei gilydd”

Mae gwaith Aneurin Jones yn eiconig yng ngolwg llawer o’i gyd-Gymry a dyma gyfle i’w brofi gyda haenen ychwanegol. Lleisiau pobl dalgylch Aberteifi sydd i’w clywed yn yr ymsonau, sgestys a straeon byrion.

Bydd cyfle i chi brofi Llais y Llun am y tro cyntaf ar nos Fercher am 7.30yh, 28 o Fedi yng Nghastell Aberteifi a hynny am ddim. Yn dilyn yr agoriad mi fydd yr arddangosfa yn parhau yn y Castell tan mis Tachwedd. Bydd modd clywed y lleisiau trwy gwefan Radio Beca felly dewch a’ch ffôn symudol a chlustffonau gyda chi.

“Tra bo dynoliaeth fe fydd amaethu…”

‘Cynhaeaf’, Dic Jones

GWAHODDIAD

Cyflwyniad o ‘Cynhaeaf’

Cyfarfod Agored, Nos Iau, 1 Medi am 7.30yh 

Man a’r Lle, Coleg Ceredigion – Campws Aberteifi

Yn rhan o arlwy Gŵyl y Cynhaeaf bydd cyflwyniad unigryw o gampwaith Dic Jones ‘Cynhaeaf’,  a mae croeso mawr ichi fod yn rhan ohono.    Eddie Ladd, merch fferm o Flaenannerch a pherfformwraig disglair sydd yn arwain ar y prosiect. Dywedodd Eddie am y prosiect –

“Rwy’n falch iawn ‘y mod i’n rhan o Ŵyl y Cynhaeaf. Mae’n wirioneddol braf cael gweithio’n greadigol yn fy milltir sgwâr ac ystyried yr hyn sy’n neilltuol i gymeriad yr ardal a’m cynefin. Rwy’n falch hefyd o’r cyfle i weitho yn y Gwmrâg a chael cyfoethogi’n iaith”

Mae gwahoddiad eang i gorau, cymdeithasau, clybiau ac unigolion gymryd rhan yn y cyflwyniad cyfoes a chyffrous hwn sydd wedi ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth. Yn ogystal a chanu a pherfformio mae croeso i unrhywun sydd eisiau cynorthwyo gydag agweddau eraill y cyflwyniad e.e stiwardio, yn dechnegol, gwisgoedd ayb.

Fel rhan o’r cyflwyniad mae’n fwriad ail ffurfio y côr plant oedd yn rhan o gyngerdd cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976. Os oeddech yn aelod, yn gwybod pwy oeddynt neu yn blentyn i un ohonynt yna hoffem glywed gennych.

Bydd y cyflwyniad ei hun yn digwydd yn nhref Aberteifi ar nos Wener 30 o Fedi.  Os oes gennych ddiddordeb i gymryd rhan neu gynorthwyo yna dewch draw i’r Man a’r Lle ar nos Iau, 1 Medi i glywed mwy gan Eddie am ei gweledigaeth a chofrestru ar gyfer profiad bythgofiadwy.

————-

Ymrwymiad – Dyma amlinelliad o’r ymrwymiad tuag at y prosiect : 

  •  Gwaith dysgu caneuon a geiriau o flaenllaw.
  • Ymarferion :  Bydd ymarferion yn ystod yr wythnos 12 Medi – 16 Medi  + ymarfer gwisg cyn y perfformiad
  • Perffomiad : Nos Wener 30 Medi

Cyhoeddi un o artistiaid yr ŵyl

 

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi y bydd cyflwyniad unigryw o’r awdl ‘Cynhaeaf’ yn ystod  Gŵyl y Cynhaeaf o dan arweinaid un o berfformwyr disgleiriaf Cymru, sef Eddie Ladd, merch fferm o Flaenannerch. Dyma oedd gan Eddie i ddweud am y prosiect –

“Rwy’n falch iawn ‘y mod i’n rhan o Ŵyl y Cynhaeaf. Mae’n wirioneddol braf cael gweithio’n greadigol yn fy milltir sgwâr ac ystyried yr hyn sy’n neilltuol i gymeriad yr ardal a’m cynefin. Rwy’n falch hefyd o’r cyfle i weitho yn y Gwmrâg a chael cyfoethogi’n iaith”

Yn wir, y mae gwahoddiad eang i fudiadau, corau, cymdeithasau, clybiau ac unigolion gymryd rhan yn y cyflwyniad cyfoes a chyffrous hwn. Fel rhan o’r cyflwyniad, mae’n fwriad ail ffurfio y côr plant oedd yn rhan o gyngerdd cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976. Os oeddech yn aelod, yn gwybod pwy oeddynt neu yn blentyn i un ohonynt yna hoffem glywed gennych.

Croeso ichi rannu atgofion am Eisteddfod y Dathlu neu Eisteddfod y Llwch yn ’76 ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol (@Gwyl_Cynhaeaf) ac yn ystod yr ŵyl ei hun.

Mi fydd yna gyfarfod i bawb sydd yn dymuno bod yn rhan o’r cyflwyniad cyffrous yma ar nos Iau, 1 Medi yn y Man a’r Lle, Coleg Ceredigion (Campws Aberteifi) am 7.30yh. Dewch draw i glywed mwy!

Rydym yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Aberystwyth am noddi’r Cyflwyniad unigryw yma.  Mae Eddie Ladd yn Gymrawd Creadigol Dysgu ac Ymchwil adran Theatr, Ffilm a Theledu y Brifysgol.

Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau er cof am Dic Jones

IMG_2217
Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016 Emyr Rhys Williams Pencellyn, Aberporth CARDIGAN Ceredigion. SA43 2DD Phone : 01239 810368 Mobile : 07774 921043 email : emyr.williams@btinternet.com http://www.emyronline.co.uk

Eleni cyflwynir y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni am ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau dan y teitl ‘Ffiniau’. Y beirniaid yw Tudur Dylan Jones, Cathryn Charnell-White a Meirion MacIntyre Huws.
I nodi hanner canrif ers i Dic Jones ennill y Gadair yn Eisteddfod Aberafan, am ei awdl ‘Cynhaeaf’, cyflwynir y Gadair eleni gan ei deulu er cof am y bardd.

Un a fu’n ymweld yn aml â’r Hendre, cartref Dic Jones, oedd Emyr Garnon James, a’r crefftwr hwn, sydd hefyd yn bennaeth Adran Dylunio a Thechnoleg Ysgol Uwchradd Aberteifi, a ddewiswyd gan y teulu i gynllunio a chreu Cadair Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni.

Meddai Emyr, “Roeddwn i’n arfer galw yn Yr Hendre a gweld Cadair Aberafan yn y gornel, a feddylies i erioed y byddwn i’n cael fy newis i greu cadair ar gyfer yr Eisteddfod, a honno er cof am Dic ei hun. Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn bleser creu’r Gadair hon, a diolch i’r teulu am y cyfle.

“Wrth gychwyn ar y gwaith ac wrth feddwl am Dic a siarad gyda’r teulu, roedd un peth yn bendant – cadair ddi-ffws fyddai Cadair Eisteddfod 2016 – a’r pren fyddai’r prif atyniad. Dychwelais i’r Hendre i weld Cadair 1966. Roedd hi’n gadair gyfoes iawn ar y pryd a hithau hefyd yn ddi-ffws, gyda’r pren yn drawiadol a hardd. Dewisais weithio gyda phren Ffrengig du, a chreu cynllun syml gyda llinellau syth, cynllun y byddai Dic ei hun wedi’i werthfawrogi, gobeithio.

“Mae gweithio gyda’r pren wedi bod yn brofiad arbennig, ac rwyf wedi dysgu sut i gastio efydd i mewn i’r pren er mwyn creu’r ysgrifen a’r Nod Cyfrin, profiad newydd i mi, ac efallai y bydd ambell ddisgybl yn defnyddio’r broses hon mewn prosiectau dros y blynyddoedd nesaf.”

https://eisteddfod.cymru/cyflwyno-coron-chadair-yr-eisteddfod