Blog

Dic yr Hendre

Archdderwydd, prifardd, storïwr, darlledwr a ffermwr o Geredigion oedd Richard Lewis Jones, Dic Jones neu Dic yr Hendre. Roedd nid yn unig yn fardd dwys, athronyddol (“Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth”) ond roedd ganddo hefyd hiwmor arbennig ac iach, ac roedd ei englynion digri ymhlith goreuon ein llenyddiaeth. Oherwydd y ddwy ochr hyn, roedd y Prifardd Dic Jones yn fardd crwn, cyflawn a’i draed yn soled yn y pridd.

Yn enwog drwy Gymru gyfan ac yn fardd cenedlaethol, roedd yn ddyn ei filltir sgwâr oedd a’i waith yn adlewyrchu’i gynefin yn Ne Ceredigion yn ffermio’r Hendre, Blaenannerch ger Aberteifi.

Ceir mwy o’i hanes, wedi ei ysgrifennu gan ei ffrind Idris Reynolds, yn fan hyn                        A gellir ei weld yn adrodd yr awdl Gwanwyn yn rhan o’r gyfres Dal:Yma/Nawr 

Ymysg y llyfrau cyhoeddwyd gan Dic Jones oedd :  Agor Grwn (1960); Caneuon Cynhaeaf (1969);Storom Awst (1978);Sgubo’r Storws (1986);Golwg ar Gân (2002);Cadw Golwg (2005).

 

Dic Jones, was one of Wales’s most important literary figures of the past half-century, he combined his bardic role with that of a working west Wales farmer. “Farming is my bread and butter – poetry is the jam,” he would say, even if his advocates maintained that poetry and versemaking were his true calling.  

It’s possible to read more about Dic Jones here